Bachgendod Isaac - Atgofion Cynnar Derec Llwyd Morgan - 9781785622113 - Softcover

Morgan, Derec Llwyd

 
9781785622113: Bachgendod Isaac - Atgofion Cynnar Derec Llwyd Morgan - 9781785622113

Inhaltsangabe

Atgofion plentyndod yr ysgolhaig Derec Llwyd Morgan. Memoirs of boyhood by academic Derec Llwyd Morgan.

Die Inhaltsangabe kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.

Críticas

Ymddeolodd yr awdur o fod yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn 2004, gan benderfynu mudo i Ynys Mn. Y mae'n ffigwr cyhoeddus blaenllaw ledled Cymru ers degawdau, yn ysgolhaig ac yn awdur toreithiog, ac yn un sydd yn darlithio ac yn darlledu'n lled reolaidd. Yma, gyda chof eithriadol o fyw, llwyddodd yr awdur i gamu nl i flynyddoedd ei fachgendod ar 'y Cefen', sef Cefn-bryn-brain, a leolir ger fferm hynafol Bryn-brain, ar y ffin rhwng sir Gaerfyrddin a sir Forgannwg. Rhan helaethaf yr atgofion o bell ffordd yw'r darn cychwynnol 'Corachu eto'n drowsus byr'. Drwy gydol y gyfrol cawn ein harwain yn frwdfrydig ar hyd heolydd y pentref bach gwledig hwn, gan gael ein cyflwyno i nifer fawr o gymeriadau diddorol a nobl ar hyd y daith. Yn eu plith mae trigolion hynod fferm Bryn-brain, a sonnir am rai o denantiaid y pedwar ar hugain o 'Dai Cownsil' a godwyd yn y pentref, gan ychwanegu'n sylweddol at nifer y boblogaeth. Roedd mwyafrif y pentrefwyr naill ai'n gweithio ym mhyllau glo niferus y rhanbarth, sef ardaloedd Ystradowen, Cwmllynfell, Brynaman a Gwauncaegurwen, neu'n ffermio. A difyr yw'r disgrifiadau o rai o berthnasau gwaed yr awdur, ei fodrybedd a'i ewythrod yn bennaf, cymeriadau amrywiol eu natur, y rhai a oedd yn agos atynt pan oedd yn hogyn pen melyn yn yr ardal. Yna rhoddir sylw i rieni'r awdur eu gweithgareddau, eu diddordebau a'u hobau, natur eu gwyliau a'u tripiau, a'u cyfeillion agosaf a fu'n ddylanwadol ar y teulu bach. I raddau helaeth, tref Abertawe oedd canolbwynt eu bydysawd tra syml. Magodd Derec Llwyd Morgan ddiddordeb arbennig mewn chwaraeon, yn enwedig rygbi a phl-droed. Ac roedd mynychu'r sinema hefyd yn reit boblogaidd bryd hynny. Cymdeithas led dlawd ydoedd hon, a bu mam yr awdur yn hynod o ddarbodus yn cadw arian gleision mewn cyfres o jygiau ar y dreser er mwyn talu'r biliau niferus. Ond gyda dyfodiad y pumdegau, ymddangosai celfi o safon uchel yn y cartref, ac roedd rhai o'u cymdogion yn lled awyddus i wneud gwelliannau i'w cartrefi syml. Ymddangosai ambell i set deledu du a gwyn ar aelwydydd yr ardal yn ogystal. Naill ai i Rosaman neu'n bennaf i Gwmllynfell yr i'r trigolion lleol i addoli ar y Sul, gyda chymanfa ganu'r Pasg a'r eisteddfod, a oedd yn cwmpasu aelodau chwech o gapeli, yn achlysuron arbennig ledled yr ardal. Un o uchafbwyntiau eu gweithgareddau oedd cyngerdd y plant yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym mis Awst 1954. Yna eir ymlaen i sn am y tair siop a addurnai Gefn-bryn-brain yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fwyaf arbennig siop Annie May, lle bu teulu'r awdur yn gwsmeriaid ffyddlon, ac yna Siop Gynl, busnes y bu ei rieni yn ystyried ei brynu ar un adeg gan fod y fam wedi gweithio yno am flynyddoedd meithion. Ond, yn lle hynny, aeth ei dad i weithio i gwmni Teddington ym Mhontarddulais, ac yntau'n gorfod teithio am fwy nag awr ar ddau fws yn feunyddiol er mwyn cyrraedd yno. Mae ail ran yr atgofion, sef 'Parched pob byw ei orchwyl', yn trafod y cyfnod a dreuliodd yr awdur yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, sefydliad a oedd yn hollol wahanol i drefn 'baradwysaidd safadwy' (chwedl yr awdur) ysgol gynradd y Cefen. Aeth i Ddyffryn Aman yn dilyn ei lwyddiant yn arholiadau'r 'sgolarship', efe a thri arall o'r Cefen. Cawn ddarllen am rai o'r athrawon a'r meysydd llafur a ddilynwyd ynddynt. Yr athro Cymraeg yn yr ysgol ramadeg oedd y geiriadurwr o fri H. Meurig Evans. Sonnir am y teithiau dyddiol ar y bws er mwyn cyrraedd yr ysgol, a rhai o gyd-ddisgyblion yr awdur yn yr ysgol, yn eu plith Dafydd Iwan. Mae darn olaf yr atgofion difyr hyn, sef 'Angau, 'rwyt ti'n fy ofni i', yn trafod rhai o gyd-ddisgyblion yr awdur, yn fwyaf arbennig John Hughes, ei gyfaill pennaf, a'i deulu yntau, a bu farw John druan yn llanc ifanc yn dilyn damwain ofnadwy wrth chwarae ar fariau dur fel acrobat. Eir ymlaen i sn am salwch difrifol ac yna farwolaeth Anti Gwen yr awdur. Yn dilyn yr ergydion enbyd hyn aeth yr awdur i fwrw wythnos o wyliau yn Llandudno, ond ni chafodd dawelwch meddwl yno o gwbl, a methodd ymlacio yn sgil ei golledion. Ond, eto, aeth bywyd yn ei flaen, ac yntau'n derbyn croeso tywysogaidd gan y Parch. J. Eirian Davies a'i wraig hawddgar ac athrylithgar Jennie, gyda'r ddau'n ei annog i barhau i lenydda a barddoni. I gloi'r gyfrol, mae Derec Llwyd Morgan yn sn am ei ddaliadau crefyddol ac yntau wedi dechrau pregethu ym mhulpud capel Bethania yn bymtheg mlwydd oed, ac yna yn derbyn llu o wahoddiadau i gynnal oedfaon mewn capeli cyfagos ac yn falch ou derbyn. Ond, ar l iddo symud i Fangor fel myfyriwr israddedig ym 1961, gwaith academaidd a llenydda creadigol a aeth 'i fryd yn bennaf, a'r alwad at y pulpud yn llawer iawn llai apelgar iddo. Ac ni fu unrhyw droi yn l byth wedyn. Darllen difyr a dadlennol iawn o glawr i glawr. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Reseña del editor

An autobiographical volume of the boyhood years of Derec Llwyd Morgan in Cefn-bryn-brain on the Carmarthenshire/Glamorganshire border.

„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.